M*ae’r cwrs yn cael ei rannu’n ddau faes penodol: * * Astudio yn yr ysgol * Astudio yn y Brifysgol Mae rhan sylweddol o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys agweddau ar astudiaethau proffesiynol, datblygiad personol a phroffesiynol a rhai elfennau o astudiaethau cwricwlwm Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Byddai’r sawl sy’n hyfforddi hefyd yn datblygu’u sgiliau personol wrth siarad Cymraeg, darllen ac ysgrifennu a mynd ar brofiad mewn ysgolion Cyfrwng Cymraeg. Astudio yn yr ysgol Rydych yn cael profiad ysgol ym mhob blwyddyn o’r cwrs gan dreulio cyfanswm o 24 wythnos mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Mae profiadau yn yr ysgol yn digwydd mewn ysgolion cynradd sydd wedi eu dethol yn ofalus ac sy’n gweithio mewn partneriaeth a’r Brifysgol. Bydd eich gallu i gynllunio, rheoli a dysgu dosbarth a monitro cynnydd disgyblion wrth weithredu’n effeithiol fel rhan o dim yr ysgol, yn datblygu gam wrth gam dros dair blynedd y cwrs.
Number | Duration |
---|---|
3 | year |
Mae 100% o fyfyrwyr Astudiaethau Cynradd wedi cyflogi mewn swyddi proffesiynnol o fewn chwe mis o raddio.* Mae gan y Brifysgol enw da sydd i’w edmygu, wrth helpu pobl dan hyfforddiant ddod o hyd i swydd ddysgu gyntaf; a darperir gwasanaeth gwych gan staff a swyddogion gyrfau llawn amser. *Graduate Destinations Survey 2011